Agenda - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 19 Medi 2018

Amser y cyfarfod: 13.30
 


156(v3)  

------

<AI1>

1       Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI1>

<AI2>

2       Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI2>

<AI3>

3       Cwestiynau Amserol

(20 mins)

[Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig]

 

Neil McEvoy (Canol De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gefnogi'r gwyddonwyr sy'n ceisio atebion gan Magnox Cyf. ynghylch nifer a graddau'r damweiniau pyllau oeri yn Hinkley Point A a allai fod wedi arwain at symiau sylweddol o wraniwm a phlwtoniwm yn y mwd sy'n cael ei ddympio gan EDF ym Mae Caerdydd?

</AI3>

<AI4>

4       Datganiadau 90 Eiliad

(5 munud)

</AI4>

<AI5>

5       Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Gwaith Craffu ar ôl Deddfu ar Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013

(60 munud)

NDM6780 Russell George (Sir Drefaldwyn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar ei ymchwiliad i'r Gwaith Craffu ar ôl Deddfu ar Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Mehefin 2018.

Nodyn: Gosodwyd yr ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 12 Medi 2018.

</AI5>

<AI6>

6       Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Safonau Ysgolion

(60 munud)

NDM6776 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn gresynu at y ffaith bod cyrhaeddiad graddau TGAU rhwng A * a C yng Nghymru yn haf 2018 ar y lefel waethaf ers 2005.

2. Yn mynegi pryder am safonau ysgol, o ystyried nifer yr ysgolion yng Nghymru a roddwyd mewn mesurau arbennig gan Estyn a sydd wedi cael hysbysiadau rhybuddio gan awdurdodau addysg lleol Cymru.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mwy mewn addysg i fynd i'r afael â'r bwlch ariannu fesul disgybl rhwng Cymru a Lloegr.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Julie James (Gorllewin Abertawe)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:

1.  Croesawu:

a.  bod cyfran y disgyblion sy’n cael y graddau uchaf, sef A*-A yn TGAU a Safon Uwch wedi cynyddu;

b.  bod cynnydd o 50% yn nifer y cofrestriadau ar gyfer TGAU Gwyddoniaeth, gyda mwy o gofrestriadau yn cael A*-C;

c.  bod cynnydd yn nifer y disgyblion sy’n cael A*-C yn TGAU Mathemateg a Mathemateg-Rhifedd gan gydnabod y canlyniadau gorau a gafwyd gan blant 16 oed yng nghyfresi Tachwedd a’r haf;

d.  bod 76.3 y cant o ddisgyblion a oedd yn gwneud Safon Uwch wedi cael A*-C, y gyfradd uchaf ers 2009.  

2. Nodi:

a.  rhybudd Cymwysterau Cymru, o ystyried maint a chymhlethdod newidiadau diweddar, y dylid bod yn ofalus wrth lunio unrhyw gasgliadau drwy gymharu canlyniadau TGAU Haf 2018 a chanlyniadau blynyddoedd blaenorol, ond bod perfformiad cyffredinol yn sefydlog ar y cyfan;

b.  bod y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd wedi nodi cynnydd mewn sawl maes polisi, a nodi bod ymagwedd Cymru wedi newid o fod yn un dameidiog a byrdymor i fod yn un sy’n cael ei llywio gan weledigaeth hirdymor; a

c.  casgliad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, sef bod gwariant ysgolion fesul disgybl wedi cwympo mwy yn Lloegr nac yng Nghymru dros yr wyth mlynedd ddiwethaf, a bod hyn, i bob pwrpas, wedi cael gwared ar y bwlch gwariant fesul disgybl rhwng y ddwy wlad.

Adroddiad Cymwysterau Cymru – Trosolwg o ganlyniadau TGAU yng Nghymru – Haf 2018 (Saesneg yn unig)

Adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd – 'The Welsh Education Reform Journey' (Saesneg yn unig)

Adroddiad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid  – ‘Comparing Schools Spending per Pupil in Wales and England’ (Saesneg yn unig)

 

Gwelliant 2 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd at ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi digon mewn addysg i sicrhau bod yr holl weithlu addysg yn derbyn hyfforddiant digonol ac o safon uchel.

 

Gwelliant 3 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd at ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi digon mewn addysg i sicrhau bod tal ac amodau’r holl weithlu addysg yn denu gweithlu gyda lefel uchel o sgiliau.

</AI6>

<AI7>

7       Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig - Da byw yr Ucheldir

(60 munud)

NDM6779 Gareth Bennett (Canol De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu y dylid dychwelyd defaid, y cyfeiriwyd atynt yn y gorffennol fel cynrhon gwlanog, i fryniau Cymru.

2. Yn gresynu at y ffaith bod y penderfyniad i ddileu hawliau pori ar ucheldiroedd Cymru wedi arwain at ddifrod enfawr i ucheldiroedd Cymru, bywyd gwyllt a'r amgylchedd yn gyffredinol. 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gael gwared ar unrhyw gymhellion sy'n annog symud da byw o ardaloedd yr ucheldir ac, yn lle hynny, darparu cymhellion i ailboblogi'r ardaloedd hynny â da byw.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd da byw yng Nghymru yn y broses o gefnogi'r diwydiant bwyd-amaeth ledled Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig.

2. Yn credu bod diwydiant da byw Cymru yn sector integredig a bod da byw yr ucheldir a'r iseldir yn ddibynnol ar ei gilydd.

3. Yn nodi pwysigrwydd ffermio ar yr ucheldir i gymunedau gwledig, ac yn credu bod angen i Lywodraeth Cymru roi blaenoriaeth i hybu mwy o gapasiti prosesu yng Nghymru er mwyn ychwanegu gwerth at y sector da byw.

4. Yn annog Llywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau newid o ran sut y mae incwm yr ardoll hyrwyddo yn cael ei ddosbarthu a, drwy hynny, sicrhau gwell elw, yn enwedig ar gyfer diwydiant defaid Cymru a Hybu Cig Cymru, y sefydliad sy'n gyfrifol am ddatblygu, hyrwyddo a marchnata cig coch Cymru. 

[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 ei ddad-ddethol]

Gwelliant 2 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu bod ffermydd defaid yr ucheldir yn rhan bwysig o economi Cymru.

2. Yn nodi â phryder y peryglon y mae gadael y farchnad sengl a'r undeb tollau yn eu hachosi i ffermydd defaid yr ucheldir.

3. Yn cefnogi aros yn yr UE fel ffordd o gadw statws y farchnad sengl ond, os byddwn yn gadael yr UE ac yn colli aelodaeth o'r farchnad sengl, yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi cymorth digonol i ffermydd defaid yr ucheldir gan adeiladu ar safonau lles anifeiliaid ac amgylcheddol uchel.

[Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol]

Gwelliant 3 - Julie James (Gorllewin Abertawe)

Dileu popeth a rhoi yn ei le

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu bod canlyniad refferendwm Brexit a’r heriau masnach a fydd yn deillio ohono i ffermio ucheldir Cymru yn golygu bod angen i ni edrych tua’r dyfodol, ac nid i’r gorffennol, gan ddatblygu model cymorth newydd ar gyfer rheolwyr tir.

2. Yn nodi canlyniadau gwahanol ymarferion cynllunio senarios ar gyfer amaeth ar ôl Brexit yng Nghymru. Mae’r cyfan yn rhagweld dyfodol anodd ar gyfer ffermio defaid yn yr ucheldir os bydd y DU yn ymadael â’r farchnad sengl a’r undeb tollau.

3. Yn cefnogi bwriad Llywodraeth Cymru i greu rhaglen, a fydd yn cynnwys ffermwyr yr ucheldir, a fydd yn mynd i’r afael â’r materion a nodir uchod drwy gyflwyno dau gynllun mawr a hyblyg: sef Cynllun Cadernid Economaidd a chynllun Nwyddau Cyhoeddus.

Ymghynghori – Cymorth i Ffermwyr Cymru ar ôl Brexit

</AI7>

<AI8>

8       Cyfnod pleidleisio

 

</AI8>

<AI9>

9       Dadl Fer

(30 munud)

NDM6775 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Gwella ein democratiaeth a thrafodaeth wleidyddol: pam y mae'n rhaid i Gymru arwain y ffordd o ran creu a darparu gwleidyddiaeth fwy caredig.

</AI9>

<TRAILER_SECTION>

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 25 Medi 2018

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>